Cymru, Y Deyrnas Unedig
Country / Region: Cymru, Y Deyrnas Unedig
Name of Member: Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Name of Office: Comisiynydd y Gymraeg

Dechreuodd Meri Huws fel y Comisiynydd cyntaf ar 1 Ebrill 2012. Mae wedi bod yn gyfrifol am ysgrifenyddiaeth Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith ers mis Mawrth 2015 ac yn gadeirydd ar y Gymdeithas ers mis Mawrth 2016.

Cyn ei phenodi’n Gomisiynydd, bu Meri Huws yn Gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 2004 a 2011, a hefyd yn aelod o’r Bwrdd o 1993 hyd 1997.

Astudiodd radd mewn Cyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yna gradd uwch yng Ngholeg y Santes Ann, Rhydychen. Ar ôl hyfforddi i fod yn weithwraig gymdeithasol, bu’n gweithio yn y maes am sawl blwyddyn yng ngogledd-orllewin Cymru. Wedi hynny, aeth ati i ddilyn gyrfa ym myd addysg uwch yn yr 80au a’r 90au - bu’n darlithio yng Ngholeg Normal, Bangor, a Phrifysgol Casnewydd cyn mynd ati i weithio am gyfnod yn Swyddfa Academaidd Prifysgol Dinas Dulyn. Bu hefyd yn gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith Gymraeg rhwng 1981 a 1983.

Ym 1999 symudodd i weithio i Brifysgol Bangor fel Dirprwy Is-ganghellor, a bu yn y swydd am ddeng mlynedd. Fe’i penodwyd yn Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2009, cyn cael ei phenodi’n Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae’n wyneb adnabyddus ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg, corff annibynnol a grëwyd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Gwneir hyn drwy ddwyn sylw at y ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau. Bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg.

Mae dwy egwyddor yn sail i’r gwaith:

  • Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
  • Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Mae swydd y Comisiynydd yn swydd lawn amser am gyfnod o saith mlynedd.

Mae’r Comisiynydd yn gweithio tuag at gynyddu defnydd o’r Gymraeg yng nghyswllt darparu gwasanaethau a chyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Wrth weithredu i wireddu ei gweledigaeth tymor hir, mae’r Comisiynydd wedi adnabod 5 amcan strategol:

  1. Dylanwadu ar yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg mewn datblygiadau polisi

  2. Sicrhau cyfiawnder i ddefnyddwyr y Gymraeg

  3. Gosod dyletswyddau statudol a’u rheoleiddio

  4. Annog, hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ar sail wirfoddol

  5. Gweithredu a chyfathrebu’n briodol ac effeithiol

Rhoddwyd statws swyddogol i’r Gymraeg trwy Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Er mai Saesneg yw’r iaith fwyafrifol yng Nghymru, dim ond y Gymraeg sydd â statws swyddogol wedi ei chadarnhau mewn cyfraith.

Ers dechrau’r 20fed ganrif, gwelwyd gostyngiad cyson yng nghanran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru. Ar droad y ganrif honno, roedd 49.9% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ond erbyn 1961 roedd hyn wedi haneru i 26%.

Dros y degawdau nesaf, gwelwyd cwymp pellach yn niferoedd siaradwyr Cymraeg, ond yn 2001, roedd cynnydd o 2.1%, o 18.7% yn 1991 i 20.8% yn 2001.

Erbyn 2011 gwelwyd gostyngiad yn y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg, o 20.8% yn 2001 i 19% yn 2011. Roedd hynny’n gwymp mewn niferoedd siaradwyr Cymraeg o 582,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011. Mae hyn yn erbyn cefndir o gynnydd ym mhoblogaeth Cymru, gyda phoblogaeth breswyl arferol o 3.1 miliwn yn 2011 - cynnydd o 5% ers 2001.

Er y gostyngiad yn y niferoedd yng Nghymru sy’n gallu siarad Cymraeg dros y degawd diwethaf, mae rhai tueddiadau o dwf i’w gweld hefyd, gyda chynnydd cenedlaethol yng nghanran y plant 3 i 4 mlwydd oed a 5 i 9 mlwydd oed a allai siarad Cymraeg.

Ceir rhagor o wybodaeth ystadegol ar sefyllfa’r Gymraeg fan hyn.

Yn 2016, cyhoeddodd y Comisiynydd adroddiad 5 mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg, yn cynnwys dadansoddiad o ystadegau’r Cyfrifiad mewn perthynas â’r Gymraeg ynghyd â’r holl waith ymchwil perthnasol. Gellir darllen yr Adroddiad yma.

Website: comisiynyddygymraeg.org
Other useful links:
  www.twitter.com/ComyGymraeg
  Cysylltu
  Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011