IALC use cookies to give you the best experience on our websites. By using this site you agree to our use of cookies as described in this Privacy Policy. Click here to remove this message.
MENU

Amodau a Thelerau

Datganiad – dolenni gwe allanol

Mae rhywfaint o’r wybodaeth a geir ar y wefan hon yn wybodaeth gan ffynonellau allanol. Nid yw Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yn gyfrifol am yr ansawdd cyffredinol, am farchnadwyedd na defnyddiadwyedd y deunyddiau na’r gwasanaethau sydd ar gael ar wefannau allanol neu sy’n cael eu cyflwyno neu eu disgrifio ar ddewislen eu gwefan. Nid yw Swyddfa Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb, hygrededd na chyfrededd y wybodaeth ar wefannau a ddarperir gan ffynonellau allanol.

Datganiad preifatrwydd

Mae Swyddfa Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yn ymrwymedig i ddiogelu preifatrwydd y rhai sy’n ymweld â’i gwefan. Fodd bynnag, mae’r rhyngrwyd yn fforwm cyhoeddus a gall gwybodaeth electronig gael ei ryng-gipio. Nid yw’r wefan hon yn wefan gwarchodedig ddiogel. Peidiwch â datgelu gwybodaeth gyfrinachol ddiangen.

Hawlfraint a hawliau atgynhyrchu

Cafodd y deunyddiau ar y wefan hon eu creu a’u casglu gan Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith er mwyn galluogi i bobl o Ganada gael mynediad uniongyrchol at wybodaeth am raglenni a gwasanaethau Llywodraeth Canada.

Mae’r deunyddiau a geir ar y wefan hon yn warchodedig gan gyfraith, polisïau a rheoliadau Canada, a chan gytundebau rhyngwladol. Mae gwarchodaeth o’r fath yno er mwyn adnabod ffynhonnell y wybodaeth a/neu’r awdur, ac – mewn amgylchiadau penodol – er mwyn gwahardd atgynhyrchu deunyddiau heb ganiatâd ysgrifenedig.

Atgynhyrchu ar gyfer dibenion anfasnachol

Mae’r wybodaeth a geir ar y wefan hon wedi ei gosod yma gyda’r bwriad o fod yn ddeunydd parod i’w ddefnyddio er diben anfasnachol personol a chyhoeddus. Gall gael ei atgynhyrchu, yn rhannol neu’n gyfan ac mewn unrhyw fodd, heb gost ac heb unrhyw ganiatâd pellach gan Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith. Mae ein hunig ofynion fel a ganlyn:

Atgynhyrchu er dibenion masnachol

Gwaherddir atgynhyrchu copïau lluosog o ddeunyddiau’r wefan hon, yn rhannol neu’n gyfan, er dibenion ailddosbarthu masnachol, oni bai fod caniatâd ysgrifenedig wedi ei roi gan Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith.