MENU

Gwahoddiad

Er mwyn cyflawni cenhadaeth Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith (IALC) i gefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd, mae’r gymdeithas yn awyddus i ddenu rhagor o aelodau. Rydym felly’n gwahodd sefydliadau sy’n rhannu gweledigaeth IALC ac sy’n bodloni’r Meini Prawf ar gyfer aelodaeth i ymuno â ni.

Gwneud cais am aelodaeth lawn o IALC: 

Meini Prawf aelodaeth IALC a Ffurflen Gais (Saesneg yn unig)

Newydd: Aelodaeth Arsylwi

Pleidleisiodd aelodau IALC yn unfrydol yn eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Bilbao ym mis Medi 2022 i greu categori aelodaeth newydd a fydd yn caniatáu i sefydliadau gael mynediad at weithgareddau IALC pan nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer aelodaeth lawn fel y disgrifir yn y ffurflen Aelodaeth Lawn.

Pwrpas yr Aelodaeth Arsylwi yw meithrin mwy o ymwybyddiaeth, ymgysylltiad a chydweithio rhwng IALC a chyrff neu sefydliadau eraill sydd â mandad i oruchwylio hawliau ieithyddol, ond sy’n methu bodloni’r meini prawf ar gyfer aelodaeth lawn a nodir yn Rheolau Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith. 

Manteision aelodaeth

Bydd Arsylwyr yn cael mynediad at rwydwaith amrywiol o gomisiynwyr iaith, ombwdsmyn a rhanddeiliaid eraill, gan hwyluso cydweithio a chyfnewid syniadau ac arferion gorau. Yn ogystal â hynny, bydd Arsylwyr yn cael, er enghraifft: 

Gellir dod o hyd i fanylion llawn y polisi Aelodaeth Arsylwi yma:  Polisi Aelodaeth Arsylwi IALC (Saesneg yn unig)

Nodwch nad yw’r categori aelodaeth hwn wedi ei fwriadu ar gyfer unigolion neu ymchwilwyr academaidd sy’n arbenigo mewn hawliau ieithyddol a gwaith comisiynwyr iaith. Fodd bynnag, byddai gan y gymdeithas ddiddordeb mewn trafod pob cyfle i gydweithio ag ymchwilwyr ar amcanion craidd IALC o gefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd. Gellir cyflwyno cynigion ar gyfer cydweithio neu brosiectau ymchwil i info@languagecommissioners.org.

Gwneud cais am Aelodaeth Arsylwi: 

Meini Prawf Aelodaeth Arsylwi IALC a Ffurflen Gais (Saesneg yn unig)