MENU

Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith, Cymru 2024

Cofleidia dy iaith: Cynyddu defnydd o ieithoedd lleiafrifol a swyddogol

Cynhaliwyd wythfed cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yng Nghaerdydd ar 11 Mehefin 2024. Roedd y gynhadledd yn gyfle i archwilio effeithiau trawsnewidiol deddfu o blaid ieithoedd yng Nghymru a thu hwnt. Yn ogystal â sesiynau ymarferol yn rhannu profiadau sefydliadau o Gymru, cafwyd cyfraniadau gan y prif siaradwyr isod:

Gallwch wylio'r sesiynau yma: https://languagecommissioners.org/Videos-IALC-conference-2024

Gallwch bori drwy luniau swyddogol o'r digwyddiad yma: International Association of Language Commissioners - Gallery Page 

Gwyliwch yr Athro Colin H. Williams yn croesawu aelodau IALC a’r cynadleddwyr i Gymru: 

Gallwch wylio fideo byr yn dathlu uchafbwyntiau’r digwyddiadau yma: 

Cefnogwyd y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru.

Rhaglen y Gynhadledd


Lansiad Swyddogol Cynhadledd y Gymdeithas

Cynheliwyd digwyddiad i lansio'r gynhadledd ar 10 Mehefin ym Mae Caerdydd. Roedd y lansiad yn gyfle i ddathlu dengmlwyddiant y Gymdeithas yng nghwmni:

Darllenodd y Prifardd Mererid Hopwood gerdd gomisiwn arbennig i nodi’r achlysur a chafwyd adloniant hefyd gan y cerddor a’r cyfansoddwr Gwilym Bowen Rhys a chôr Ysgol Hamadryad.

Noddwyd y lansiad gan Delyth Jewell AS.

Diolch arbennig i Darwin Gray am eu nawdd hael.

www.darwingray.com

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024