Cadeirydd newydd IALC
Mr Séamas Ó Concheanainn
Etholwyd Mr Séamas Ó Concheanainn, An Coimisinéir Teanga, Comisiynydd Iaith Iwerddon, yn Gadeirydd IALC ym mis Mehefin 2025. Bydd ei swyddfa, Oifig an Choimisinéara Teanga, yn cynnal cynadledd ryngwladol y Gymdeithas yn Galway rhwng 8 a 10 Medi 2026. Adeg ei ethol dywedodd:
“Ers ei sefydlu ym mis Mai 2013, mae IALC wedi hyrwyddo hawliau ieithyddol, cydraddoldeb ac amrywiaeth ledled y byd, gan gefnogi comisiynwyr iaith i gynnal safonau proffesiynol uchel. Mae IALC yn eiriol dros hawliau ieithoedd lleiafrifol ac yn cefnogi ieithoedd brodorol yn ogystal ag ieithoedd a siaredir yn ehangach mewn cyd-destunau ieithyddol amrywiol. Yn ei hanfod, mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i ddiogelu a chryfhau hawliau ieithyddol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn ar gyfer a chan genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Gaillimh ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol IALC 2026 i adeiladu ar y gwaith pwysig hwn.”
Wrth gyfeirio'n benodol at y gynhadledd yn 2026, dywedodd y Cadeirydd:
‘‘Rwy’n gwbl ymrwymedig i ddiogelu a chryfhau hawliau iaith ac i sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod ar gyfer a chan genedlaethau’r dyfodol. Bydd IALC yn parhau i fod yn ymrwymedig i godi ymwybyddiaeth fyd-eang o’r heriau sy’n wynebu cymunedau ieithoedd lleiafrifol ac i ddarparu fforwm ar gyfer rhannu profiad a gwybodaeth rhwng ei haelodau."


