IALC use cookies to give you the best experience on our websites. By using this site you agree to our use of cookies as described in this Privacy Policy. Click here to remove this message.
MENU

Seithfed Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith

Medi 9, 2022

Bilbao, Gwlad y Basg – Clowyd seithfed cynhadledd flynyddol ryngwladol a chyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith (IALC) heddiw yn Bilbao, Gwlad y Basg. Nid oedd y gymdeithas wedi dod ynghyd wyneb yn wyneb ers cyn cyfnod pandemig COVID-19.

“Wedi dros dair blynedd ar wahân, roedd y gynhadledd a’r cyfarfod cyffredinol yn gyfle i aelodau ailgysylltu ac ail-ymroi i’n cenhadaeth i gefnogi a gwella hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ar draws y byd,” medd Raymond Théberge, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada sy’n gorffen ei gyfnod fel Cadeirydd IALC.

Yn ystod y gynhadledd deuddydd, cynhaliodd y grŵp sesiynau a phaneli trafod yn mynd i’r afael ag amryw o bynciau, gan gynnwys effaith pandemig COVID-19 ar y comisiynwyr iaith ac ar hawliau ieithyddol, yr heriau a’r cyfleoedd mae’r cyfryngau cymdeithasol yn eu cynnig, lle ieithoedd swyddogol yng ngwaith ombwdsmyn, yr heriau wrth gyflawni mandad comisiynydd iaith, a rheoli ymchwiliadau’n effeithiol wrth ddelio â phwysau allanol.

Yn ystod y cyfarfod cyffredinol, cytunodd aelodau’r gymdeithas, yn rhan o’u cynllun gwaith nesaf, i sefydlu categori aelodaeth arsylwi er mwyn caniatáu i awdurdodaethau nad ydynt yn bodloni’r gofynion aelodaeth penodol gymryd rhan yng ngweithgareddau IALC.

Cyhoeddwyd hefyd yn y cyfarfod cyffredinol mai Comisiynydd y Gymraeg fydd yn gyfrifol am gadeiryddiaeth ac ysgrifenyddiaeth y gymdeithas dros y flwyddyn sydd i ddod.

Dilynwch IALC ar Twitter

Dilynwch IALC ar Facebook