Comisiynydd y Gymraeg
Gwybodaeth am yr aelod
Yn wreiddiol o Dreforus, ger Abertawe, cafodd Efa ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio yn Adran y Gymraeg.
Drwy gydol ei gyrfa mae hi wedi gwneud swyddi sydd wedi cyfuno ei diddordeb yn y celfyddydau, ac yn y Gymraeg. Gweithiodd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru cyn cael ei phenodi yn Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, yn 2004.
Yn 2016, fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sef y corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru i roi arweiniad strategol i’r maes dysgu Cymraeg i oedolion yng Nghymru. Yn ystod ei chyfnod wrth y llyw datblygodd y Ganolfan gwricwlwm ac adnoddau newydd, gyda phwyslais ar y digidol, ac fe arweiniodd ar sefydlu prosiectau arloesol gan gynnwys y Cynllun ‘Cymraeg Gwaith.’
Tan yn ddiweddar roedd Efa yn Gadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru. Bu hefyd yn Is-Gadeirydd CWVYS, yn ymddiriedolwr o’r WCVA, ac yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Yn ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg dywed Efa ei bod eisiau sicrhau bod y pwerau sydd gan y Comisiynydd yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial, bod defnydd cynyddol yn cael ei wneud o’r iaith, a bod y Comisiynydd yn chwarae rhan allweddol yn yr ymdrechion i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg.
Cychwynnodd Efa fel Comisiynydd y Gymraeg yn Ionawr 2023.
Gwybodaeth am swyddfa'r aelod
Prif nod Comisiynydd y Gymraeg, corff annibynnol a grëwyd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Gwneir hyn drwy ddwyn sylw at y ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau. Bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg.
Mae dwy egwyddor yn sail i’r gwaith:
- Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
- Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Mae swydd y Comisiynydd yn swydd lawn amser am gyfnod o saith mlynedd.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio tuag at gynyddu defnydd o’r Gymraeg yng nghyswllt darparu gwasanaethau a chyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.
Wrth weithredu i wireddu ei gweledigaeth tymor hir, mae’r Comisiynydd wedi adnabod 5 amcan strategol:
- Dylanwadu ar yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg mewn datblygiadau polisi
- Sicrhau cyfiawnder i ddefnyddwyr y Gymraeg
- Gosod dyletswyddau statudol a’u rheoleiddio
- Annog, hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ar sail wirfoddol
- Gweithredu a chyfathrebu’n briodol ac effeithiol
Gwybodaeth allweddol am sefyllfa ieithyddol y Wlad/Rhanbarth
Rhoddwyd statws swyddogol i’r Gymraeg trwy Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Er mai Saesneg yw’r iaith fwyafrifol yng Nghymru, dim ond y Gymraeg sydd â statws swyddogol wedi ei chadarnhau mewn cyfraith.
Ers dechrau’r 20fed ganrif, gwelwyd gostyngiad cyson yng nghanran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru. Ar droad y ganrif honno, roedd 49.9% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ond erbyn 1961 roedd hyn wedi haneru i 26%.
Dros y degawdau nesaf, gwelwyd cwymp pellach yn niferoedd siaradwyr Cymraeg, ond yn 2001, roedd cynnydd o 2.1%, o 18.7% yn 1991 i 20.8% yn 2001.
Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn dangos bod 17.8% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg. Mae hynny’n 538,300 o bobl tair oed neu’n hŷn. Dyma’r ganran isaf erioed i’w chofnodi mewn cyfrifiad, ond nid dyma’r nifer isaf i’w gofnodi o siaradwyr Cymraeg. Wedi dweud hynny, mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers 2001. Mae'r Comisiynydd wedi creu dashfwrdd data rhyngweithiol er mwyn i chi gael mynediad hwylus at y data hwn a chymharu'r niferoedd a'r canrannau dros y degawdau: Dashfwrdd Data: Pwy sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru?
Gallwch ddarllen adroddiad 5-mlynedd statudol y Comisiynydd am sefyllfa'r Gymraeg, sy'n cynnwys dadansoddiad manwl o Gyfrifiad 2021 yma: Gellir darllen yr Adroddiad yma.



